John Walter Jones oedd Cadeirydd parhaol diwetha' S4C
Fis ers y cyfweliadau ar gyfer y swydd, mae AC Plaid Cymru wedi beirniadu’r oedi dros benodi Cadeirydd newydd Awdurdod S4C.

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “annerbyniol” bod yr ymgeiswyr yn dal i aros i glywed pwy sydd wedi cael y job.

Does gan Awdurdod y Sianel ddim cadeirydd parhaol ers i John Walter Jones ymddiswyddo cyn y ‘Dolig, a does yr un Prif Weithredwr parhaol wrth y llyw ers i Iona Jones gael ei diswyddo fis Awst y llynedd.

Rheon Tomos yw Cadeirydd dros dro’r Awdurdod, ac Arwel Ellis Owen yw’r Prif Weithredwr dros dro.

Fe ddywedodd Rhodri Glyn Thomas fod yr “ansicrwydd” sy’n bodoli dros benodiad Cadeirydd Awdurdod S4C yn “annerbyniol”.

“Mae’r cyfweliadau wedi bod – o ran tegwch i’r ymgeiswyr, fe ddylai’r DCMS ddweud wrth S4C beth sy’n digwydd,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Maen nhw’n ymdrin â’r ymgeiswyr mewn ffordd sy’n amhroffesiynol ac annerbyniol,” ychwanegodd.

Roedd yr Aelod Cynulliad yn dweud ei bod yn anodd penodi Prif Weithredwr heb Gadeirydd parhaol i’r sianel.

“Dyw’r ansicrwydd ddim yn help o ran ceisio symud S4C i’r dyfodol… mae’n anodd i bobl sy’n gwneud swyddi dros dro wneud penderfyniadau pellgyrhaeddol i’r dyfodol,” meddai. 

“Beth sy’n digwydd os fydd y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr newydd â gweledigaeth hollol wahanol?

“Ar hyn o bryd, does dim gwybodaeth o gwbl. Mae’n annheg ar Rheon Tomos ei hun.

“O ran tegwch – fe ddylai gael gwybod beth sy’n digwydd. Byddwn i’n arbennig o anhapus taswn i’n Rheon. Roeddwn i’n disgwyl y basa’r person yn ei swydd erbyn hyn,” meddai.

‘Sialens’

Mae Cadeirydd dros dro’r sianel yn cydnabod ei bod yn “sialens arwain pethau ar y funud.”

Ond mae Rheon Tomos wedi pwysleisio wrth Golwg360 bod rheolaeth S4C yn nwylo mwy o bobol na Chadeirydd a Phrif Weithredwr yn unig.

“Dim unbennaeth yw S4C ond criw o bobl yn dod i benderfyniadau, nid un person,” meddai.

“Mae’r Cadeirydd yn bwysig – ond ddim pwysicach na’r aelodau Awdurdod unigol yn fy marn i,”  ychwanegodd gan bwysleisio fod aelodau’r awdurdod yn  “agos iawn at beth sy’n mynd ymlaen

“Rydan ni’n andros o ffodus o’r Prif Weithredwr dros dro hefyd – mae ganddo’r gallu i ddod â phobl at ei gilydd, i drafod ac edrych ymlaen.

“Dydyn ni ddim yn gwybod faint o amser y bydd hi’n cymryd i’r Ysgrifennydd Gwladol – ond mae’n rhaid i ni gario ‘mlaen â lot fawr o benderfyniadau.

 “Mae’r Awdurdod yn unedig iawn am le rydan ni’n mynd ac mae perthynas arbennig o dda rhwng y tîm rheoli a’r Awdurdod. Mae’n rhaid i ni bydru ‘mlaen. Allwn ni ddim fforddio oedi a disgwyl o gwmpas.”

Fe ddywedodd bod y sianel yn edrych ar gomisiynu Dramâu at 2012-2014 ar hyn o bryd.  “Mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau yma rŵan. Rydan ni’n trio rhoi sicrwydd i’r sector hefyd,” meddai.

Er nad yw’r oedi  “o wneuthuriad y sianel”, fe ddywedodd y byddai’r “cemeg rhwng y Cadeirydd a’r prif weithredwr” yn holl bwysig.

Yn ôl Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain does ganddyn nhw ddim amserlen benodol ar gyfer penodi’r Cadeirydd.