Yr wythnos hon mae swyddogion Cymdeithas Prifddinasoedd Chwaraeon Ewrop wedi cyhoeddi mai prifddinas Cymru fydd canolbwynt chwaraeon Ewrop ymhen tair blynedd.

Dyfarnwyd y teitl i Gaerdydd yn dilyn ymweliad â’r ddinas gan dîm o gynrychiolwyr o Ewrop.

Yn ystod yr ymweliad bu’r criw yn teithio o gwmpas cyfleusterau chwaraeon y ddinas gan gynnwys y Ganolfan ‘Dŵr Gwyn’ Ryngwladol a’r stadiwm pêl-droed.

Roedd yn cael ei gydnabod bod Caerdydd wedi hen sefydlu ei hun fel dinas flaenllaw o ran chwaraeon, gan gynnig y stadia a’r cyfleusterau diweddaraf un gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm SWALEC a Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.

Mae’r teitl Prifddinas Chwaraeon Ewrop yn cydnabod ymrwymiad dinas i ddarparu chwaraeon fel swyddogaeth gymdeithasol, a’i ddefnyddio i wella ansawdd bywyd a lles ei dinasyddion ar yr un pryd.

Mae Caerdydd wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys gêm griced yn Nghyfres y Lludw, Cwpan Rygbi’r Byd a rowndiau terfynol Cwpan bêl-droed yr FA.

Roedd y beirniaid yn hapus gyda’r gefnogaeth i chwaraeon ar lawr gwlad drwy raglen Chwaraeon Caerdydd sy’n helpu i hyfforddi a phenodi cannoedd o hyfforddwyr i weithio mewn ysgolion, clybiau chwaraeon a chymunedau.

“Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad chwaraeon o bwys yn llwyddiannus, wedi sefydlu rhaglen chwaraeon flaenllaw ar lawr gwlad ac mae gennym ganolfannau chwaraeon sydd gyda’r gorau,” meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Rodney Berman.

“Mae ein dull o ddatblygu chwaraeon drwy’r sectorau preifat a gwirfoddol, wedi cael ei enwi gan y beirniaid fel yr enghraifft orau yn Ewrop.

“Mae Caerdydd yn ddinas uchelgeisiol a bydd hyn yn hwb mawr nid yn unig i’n statws fel cyrchfan chwaraeon o bwys, ond o ran tanlinellu ein hymrwymiad i chwaraeon fel dull o hybu iechyd a lles.”
Fe fydd y cyhoeddiad yn hwb mawr i Gaerdydd sy’n ystyried gwneud cynnig am Gemau’r Gymanwlad yn 2026.