Nick Clegg
Bydd Dirprwy Brif-Weinidog Prydain yn mynd ar daith o gwmpas Cymru heddiw er mwyn ymgyrchu dros ymgeiswyr y blaid yn Etholiadau’r Cynulliad.

Diwrnod yn unig wedi i Nick Clegg gael ei ddyfynu gan The Spectator yn dweud fod cefnogi’r Dems Rhydd nawr fel cyfaddef i “gyfrinach euog”, fe fydd arweinydd y blaid yn dod i Gymru i ganfasio dros ei ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

Bydd Nick Clegg yn dechrau ei daith yn etholaeth Dwyrain Casnewydd, gan  gwrdd ag arweinydd ei blaid yng Nghymru, Kirsty Williams.

Ar ôl cyfarfod â rhai o’r ymgeiswyr a sefydliadau lleol yno, fe fydd yn teithio i fyny i Sir Drefaldwyn i gwrdd ag ymgeisydd etholaethol y blaid, Wyn Williams, sy’n ceisio ad-ennill y sedd i’r Dems Rhydd wedi i Mick Bates gael ei ddiarddel o’r blaid y llynedd.

Erbyn amser cinio, mae disgwyl i’r Dirprwy Brif-Weinidog fod yn Wrecsam i ymweld â chwmni lleol Sharps Electonics, cyn mynd draw i Aberconwy i gwrdd ag ymgeiswyr yno.

Cleggedigion?

Daw’r daith i ben yn y gorllewin, yn un o seddi targed pwysicaf y Dems Rhydd yng Nghymru, sef Ceredigion.

Mae disgwyl i’r Dirprwy Brif-Weinidog ymweld â bwyty a pharlwr hufen-iâ y Cwch Gwenyn ar yr harbwr yn Aberaeron, gan gwrdd ag AS y Dems Rhydd dros Geredigion, Mark Williams, ynghyd ag ymgeisydd Cynulliad y blaid, Elizabeth Evans.

Mae arwyddion oren y blaid eisoes wedi eu codi yn y sir, wrth iddyn nhw anelu at ail-greu buddugoliaeth y Democratiaid Rhyddfrydol dros Blaid Cymru y llynedd.