Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae’r Ceidwadwyr wedi ymateb yn chwyrn i awgrym gan Blaid Cymru y byddwn nhw’n dileu tocynnau bws am ddim i bobol anabl.

Roedd ymgeisydd Plaid Cymru yn Islwyn, Steffan Lewis, wedi dweud ei fod yn pryderu y byddai’r Ceidwadwyr yn cefnu ar y cynllun am nad oedden nhw wedi ei gynnwys ar restr o addewidion ar gyfer yr etholiad.

Ond mynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, y byddai’n amddiffyn y tocynnau bws, ac yn eu cynnig i ofalwyr yn ogystal â chyn-filwyr hefyd.

“Dydyn ni ddim yn mynd i gefnu ar y cynllun, ac yn bwriadu ei ymestyn,” meddai.

“Fe fyddai pawb sy’n derbyn tocynnau bws am ddim yn parhau i’w derbyn. Fe fyddwn ni’n ychwanegu gofalwyr a chyn-filwyr at y rhestr.”

Cyhuddodd Plaid Cymru o ymdrin â thrafnidiaeth mewn modd “gresynus” yn ystod eu cyfnod mewn llywodraeth dros y pedair blynedd diwethaf.

“Mae pobol sydd ag anableddau yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a dydyn nhw ddim yn cael digon o gefnogaeth,” meddai Nick Bourne.

“Rhaid i ni sicrhau fod y rheini sydd angen trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gael – rhywbeth y dylai Plaid Cymru fod wedi ei wneud blynyddoedd yn ôl.

“Mae ymgeisydd Plaid wedi gwneud camgymeriad. Mae’n bechod fod ei blaid wedi treulio pedair blynedd yn gwneud yr un fath.”

Serch hynny dywedodd Nick Bourne yn ddiweddarach, mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales, y byddai yn barod i glymbleidio â Phlaid pe na bai gan unrhyw blaid fwyafrif ar ôl 5 Mai.