Warwick Nicholson
Warwick Nicholson, Cadeirydd UKIP Cymru, sy’n dweud nad ydi’r Cynulliad yn cynrychioli barn y bobol…

Wrth i’r haul fachlud ar derfyn tymor arall yn y Cynulliad, bu’n rhaid i’r wlad oddef araith gywilyddus gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Roedd y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod llewyrchus i’w lywodraeth, meddai, ac fe ddiddanodd ei gynulleidfa â straeon am lwyddiannau diddiwedd ei lywodraeth, er lles poblogaeth Cymru.

Cafodd yr hunan asesiad disglair hwn ei ategu gan lif o areithiau “On’d ydyn ni wedi gwneud yn dda!” yn ystod sesiwn olaf y Cynulliad, gan nifer o’r Aelodau Cynulliad oedd ar fin gadael.

Dyw hunan glod ddim yn glod o gwbl, wrth gwrs. Ac mae’n rhaid i rywun ofyn pa mor wael sydd angen i bethau fod yng Nghymru cyn bod y dosbarth gwleidyddol sydd wedi ymgartrefu ym Mae Caerdydd yn ystyried cynnig asesiad llai na disglair o’u perfformiad eu hunain.

Mae gwleidyddion pleidiau’r Cynulliad wedi gwylio Cymru yn disgyn bron i waelod rhengoedd addysg PISA, diwydiannau’r wlad a’r diwydiant cynhyrchu yn dirywio, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r gwasanaeth ambiwlans – er gwaethaf ymdrechion ein staff meddygol ar y rheng flaen – yn disgyn ar ei hol hi i Loegr.

Pam felly y bonllefau o “On’d ydyn ni wedi gwneud yn dda!” ym Mae Caerdydd.  Dydi UKIP ddim yn credu eu bod nhw wedi gwneud yn dda, ac yn poeni’n fawr fod cyn lleied o sylw i faterion sydd o dragwyddol bwys i’n cenedl.

Mae UKIP yng Nghymru yn credu mewn llywodraeth lai, llai o wleidyddion – datganoli go iawn i’r bobol, â refferenda lleol a chenedlaethol sy’n sicrhau fod polisïau sy’n boblogaidd â’r cyhoedd yn cael eu gwireddu.

Tra bod ein hysgolion yn disgyn yn ddarnau, mae ein gwleidyddion wedi gwario dros £130 miliwn ar adeiladau newydd iddyn nhw a’u staff. Byddai UKIP yn newid y blaenoriaethu hyn ac yn gwario’r arian ar ysgolion ac ysbytai cyn adeiladau i’n gwleidyddion.

Bydden ni hefyd yn herio tueddiad Llywodraeth y Cynulliad i anwybyddu’r farn gyhoeddus, fel y gwelwyd wrth gyflwyno llosgyddion gwastraff yn, neu gerllaw, ardaloedd trefol, cau ysgolion pentrefi sy’n bygwth rhwygo’r galon o’n cymunedau, ac uno ysgolion chweched dosbarth yn erbyn dymuniadau rhieni a phlant.

Mae’n rhaid i bolisi trychinebus y Cynulliad o godi ffermydd gwynt di-ben draw ac aneffeithlon ddod i ben ar unwaith, ac y dylai’r adnoddau a’r budd-daliadau sydd yng nghlwm wrth yr ymgyrchoedd hyn gael eu rhoi i ymchwilio a datblygu ynni adnewyddadwy sy’n gweithio, gan gynnwys tonnau, llanw, a solar.

Mae UKIP yn credu bod yn rhaid datrys methiant polisïau economaidd clymblaid Cymru’n Un trwy fesurau megis lwfansau treth busnes, cefnogaeth i SMEs a recriwtio entrepreneuriaid llwyddiannus a phrofiadol o’r sector breifat i yrru cyflogaeth a sector economaidd Cymru yn ei flaen.

Mae angen trawsnewid agwedd presennol Llywodraeth y Cynulliad at gyngor a chymorth busnes, ac ailedrych ar yr adran fewnol sy’n methu busnesau Cymru ar hyn o bryd.

Gwnewch UKIP yn llais i’ch gwrthwynebiad chi.