Mae Heddlu De Cymru yn galw am lygaid dystion ar ôl i seiclwr farw yn dilyn gwrthdrawiad ddoe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 7.45pm ar yr A4118 ger y mynediad i Frogpool Farm, ger Penmaen, ar Benrhyn Gŵyr.

Roedd grŵp o seiclwyr yn teithio o Oxwich i Benmaen pan gollodd un ohonyn nhw reolaeth o’i feic a chael ei daro gan BMW 320 arian oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ond fe fu’r seiclwr farw yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu a welodd y seiclwyr neu’r BMW cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu  nhw ar 101 neu 01792 456999.