Mae undeb mwyaf Cymru yn pryderu nad ydi rhai o brifysgolion y wlad wedi cael digon o arian er mwyn cynnal ymchwil eleni.

Dywedodd Unison fod gan brifysgolion waith pwysig i’w wneud wrth gefnogi diwydiannau lleol a bod llai o arian i’w wario ar ymchwil yn mynd i rwystro hynny.

Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru’r wythnos diwethaf y bydd prifysgolion Cymru’n cael £18 miliwn yn llai’r flwyddyn nesa’.

Yn gyffredinol, mae’n golygu toriad o fwy na 6% gyda’r prifysgolion sy’n canolbwyntio ar ddysgu yn hytrach nag ymchwil yn gwneud waetha’.

Ar draws Cymru mae’r arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil a dysgu wedi syrthio o £352m yn 2010-11 i £334m yn 2011-12.

Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yw’r unig un sydd heb gael unrhyw arian i’w wario ar ymchwil o gwbl – ar ôl cael £294,000 y llynedd.

Mae nawdd y brifysgol wedi syrthio £1m ar y cyfan, sef 8% o’i gyllideb flynyddol.

Mae Simon Dunn, pennaeth addysg uwch Unison, wedi ysgrifennu llythyr at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dweud y gallai’r penderfyniad wneud difrod “anadferadwy” i’r brifysgol.

“Drwy Gymru does dim gostyngiad wedi bod mewn nawdd ar gyfer ymchwil, ond dyw Prifysgol Glyndŵr heb gael unrhyw arian o gwbl ar gyfer gwaith ymchwil,” meddai Simon Dunn yn y llythyr.

“Dim ond £294,000 oedd Prifysgol Glyndŵr yn ei gael bob blwyddyn, ond roedd yn gwneud defnydd da o’r arian hwnnw ac yn cefnogi datblygiad ac ymchwil y diwydiannau lleol.

“Rydyn ni’n credu y bydd tynnu’r arian yn ôl yn gwneud drwg i’r gwaith da sydd wedi bod yn digwydd.

“Mae gwleidyddion wedi dweud eu bod nhw eisiau i brifysgolion gefnogi diwydiannau lleol a rhoi hwb i’r economi, ond yn anffodus dyw hynny ddim yn digwydd.”

Dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru fod penderfyniadau o’r fath yn anochel oherwydd bod llai o arian cyhoeddus ar gael i’w wario.