Cocen
Ar ôl saith wythnos yn y Llys, mae’r rheithgor yn achos smyglo cyffuriau Ynys Môn wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Maen nhw wedi cael eu hanfon adre’ tros nos ar ôl clywed honiad fod gan ddyn lleol ran “allweddol” yn y cynllun.

Mae Llys y Goron Lerpwl wedi clywed yr honiad mai David Watson, 54 o Prestwich, Manceinion oedd arweinydd gang a smyglodd 14kg o’r cyffur cocên i mewn i Brydain ar awyren.

Ond  mae David Lloyd, 65, sy’n gyn hyfforddwr hedfan a chyn beilot yn yr RAF, hefyd wedi ei gyhuddo ac mae’n gwadu’r honiad.

Yn ôl yr erlyniad, fe gafodd gwerth £630,000 o gyffuriau eu smyglo i faes awyr Mona yn Ynys Môn o Le Touquet yn Ffrainc ym mis Gorffennaf a hynny mewn awyren breifat yr oedd David Watson yn berchen arni.

Clywodd y llys mae Mathew Lockwood, 29 cyn filwr o Prestwich oedd wedi codi’r cyffuriau o Ffrainc.

Mae Richard McArthur, 45 o Carrickfergus, Gogledd Iwerddon a Paul Roche, 55 o Prestwich hefyd yn wynebu honiadau yn yr achos.

Mae David Watson, David Lloyd, Paul Roche a Richard McArthur yn gwadu honiadau cynllwynio i smyglo cyffuriau dosbarth A. Mae Mathew Lockwood wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad.