Mae cyngor bwrdeistref sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i sefydlu ysgol Gymraeg newydd 11-14 yn yr ardal.

Ar hyn o bryd dim ond un ysgol gyfun Gymraeg sydd yn yr ardal, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym mhentref Trelyn, ac mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod ar gynnydd.

“Roedd yn amlwg bod angen ateb ar frys i ymdopi â’r galw cynyddol am leoedd Cymraeg ar draws y fwrdeistref sirol,” meddai’r Cynghorydd Phil Bevan, aelod cabinet CBSC dros addysg.

“Mae ein cynigion yn golygu y gallwn gynnig i’n plant a’n pobl ifanc cyfundrefn addysg sy’n addas i’r 21ain ganrif. Rwy’n siŵr y bydd rhieni yn croesawu’r penderfyniad hwn gan y bydd o fudd i’n disgyblion lleol am flynyddoedd lawer i ddod.”

Y cynlluniau

O fis Medi’r flwyddyn nesaf bydd disgyblion Blwyddyn 7 sy’n byw o fewn Basn Caerffili yn symud i gyfleusterau fydd yn cael eu datblygu ar hen safle Ysgol Gyfun Ilan Sant yng Nghaerffil.

Bydd yr ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-14 yn bwydo Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, a fydd yn cael ei ddatblygu’n “ganolfan ragoriaeth” ar gyfer disgyblion 14 i 19 oed.

Y cam cyntaf o gynllun arfaethedig £10 miliwn i fynd i’r afael a darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ardal ehangach Basn Caerffili fydd yr ysgol newydd.

Maen nhw hefyd yn bwriadu adeiladu dwy ysgol arall ar gyfer disgyblion 11-14 oed, y cyntaf yng ngogledd y sir a’r ail yn ardal Islwyn.

Bydd disgyblion yr ysgolion rheini hefyd yn symud ymlaen i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni pan maen nhw’n 14 oed.