Mae Plaid Cymru wedi addo gostwng tollau Pontydd Hafren i lai na £2 o fewn y degawd nesaf, os ydyn nhw’n ennill Etholiadau’r Cynulliad.
Dywedodd y blaid y bydden nhw’n bwrw ymlaen “ar unwaith” â thrafodaethau i ddatganoli rheolaeth dros y pontydd i Gymru.
Dywedodd Steffan Lewis, ymgeisydd y blaid yn Islwyn, bod y tollau – £5.70 y car, £11.50 y fan a £17.20 y lori – yn cael effaith negyddol sylweddol ar fusnesau ac economi Cymru.
“Mae Plaid yn ymroddedig i ostwng tollau Pontydd Hafren dan £2 y car,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod fod cost uchel y pontydd yn fater o bwys i bobol Cymru ac yn ergyd i fusnesau Cymru.
“Mae’r tollau yn boen i gwmnïau cludiant ac yn atal pobol rhag ymweld â Chymru.
“Fe fyddai’n briodol gofyn bod yr hawl i reoli’r pontydd, neu o leiaf rywfaint o’r hawl, yn nwylo pobol Cymru.”
Dwylo cyhoeddus
Ar hyn o bryd mae cwmni preifat Severn River Crossing plc yn rheoli’r pontydd. Mae’r cytundeb hwnnw yn dod i ben yn 2017.
Dywedodd Plaid y bydd y pontydd yn eiddo i Adran Drafnidiaeth Llundain ar ôl y cyfnod hwnnw.
“Fe fydden ni hefyd yn cyflwyno technoleg newydd fel nad oes rhaid i bobol sy’n croesi’r pontydd dalu ag arian parod,” meddai Steffan Lewis.
“Byddai unrhyw elw sy’n cael ei wneud yn mynd at gynnal y pontydd a chynnal isadeiledd Cymru.”