Jake Griffiths
Mae Plaid Werdd Cymru wedi dweud nad oes angen rhagor o orsafoedd niwclear na chwaith byllau glo brig ar y wlad.

Wrth lansio eu hymgyrch ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad bore ma, mynnodd y blaid y dylid buddsoddi rhagor o arian mewn egni adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae 22 o ymgeiswyr yn sefyll dros y Blaid Werdd yn yr etholiad eleni ac maen nhw’n gobeithio gweld ethol eu haelod Cynulliad cyntaf ar restr rhanbarthol Canol De Cymru.

Dywedodd y blaid y byddai codi rhagor o ffermydd gwynt oddi ar arfordir Cymru a denu busnesau sy’n arbenigo mewn egni adnewyddadwy yn hwb i’r economi ac yn creu swyddi.

‘Pwerdy’

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jake Griffiths, fod angen i Gymru fod yn “bwerdy i’r economi gwyrdd”.

“Does dim angen egni niwclear yng ngogledd Cymru a does dim angen glo brig yn ne Cymru,” meddai.

“Mae’n bosib creu swyddi drwy greu egni adnewyddadwy. Ar hyn o bryd dim ond 10% o egni Cymru sy’n dod o ffynonellau adnewyddadwy, o’i gymharu â 20 i 30% yn Ewrop.

“Roedd Cymru yn pweru’r byd ar un cyfnod. Nawr fe allai bwerau’r economi gwyrdd.”

Troed yn y drws

Roedd Aelod Seneddol cyntaf y Gwyrddion, Caroline Lucas, hefyd yn y lansiad. Dywedodd ei bod yn deg disgwyl y byddai gan y blaid AC ar ôl 5 Mai.

“Mae pobol yn edrych am rywun i wrthwynebu llywodraeth y glymblaid yn San Steffan ac maen nhw’n sylweddoli nad plaid amgylcheddol yn unig ydym ni,” meddai.

“Os ydyn ni’n cael troed yn y drws mae’n bosib wedyn rhoi pwysau ar y pleidiau eraill a sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol a thegwch ar frig yr agenda wleidyddol.”