Richard Hopkin - unig ymgeisydd hoyw Etholiadau'r Cynulliad
Mae Cyfarwyddwr Stonewall Cymru yn “hynod o siomedig” ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai dim ond un ymgeisydd agored hoyw oedd yn sefyll yn Etholiadau’r Cynulliad eleni.

Ddechrau’r wythnos roedd papur newydd y Guardian wedi cyhoeddi rhestr ‘Datganoli ac Amrywiaeth’ ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad ac Etholiadau Senedd yr Alban.

Roedd y rhestr yn tynnu sylw at y diffyg ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig ac ymgeiswyr hoyw neu ddeurywiol ar restr ymgeiswyr yr etholiadau.

Dim ond chwe ymgeisydd o’r 263 oedd o leiafrifoedd ethnig, a dau ymgeisydd hoyw, sef Ron Davies, sy’n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghaerffili, a Richard Hopkin o’r Ceidwadwyr sy’n sefyll ar restr Canolbarth De Cymru.

Dywedodd Ron Davies wrth Golwg360 nad oedd yn fodlon gwneud sylw ar y mater ac nad oedd ei dueddiadau rhywiol yn “ddim i’w wneud â neb arall”.

‘Iach datgelu’

Ond mynnodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, y byddai’n beth iach pe bai rhagor o ymgeiswyr yn fodlon datgelu eu tueddiadau rhywiol.

“O ystyried fod tua 6% o’r boblogaeth yn lesbiaid, hoyw, neu ddeurywiol, mae’r ffaith bod cyn lleied o’r ymgeiswyr yn fodlon datgelu eu rhywioldeb yn hynod o siomedig,” meddai Andrew White.

“Mae angen i wleidyddion ddangos esiampl i’n pobl ifanc,” meddai Andrew White. “Mae hynny bron yr un mor bwysig â’r hyn y mae gwleidyddion yn ei wneud ar ôl cael eu hethol.

“Am y tro cyntaf eleni fe fyddwn ni’n cynnal cyfarfod cyhoeddus gydag ymgeiswyr o’r pedair prif blaid er mwyn cael gwybod beth yn union y maen nhw’n bwriadu’i wneud er mwyn creu Cymru decach i bobol lesbiaidd, hoyw, neu ddeurywiol.”

‘Mae’n rhaid bod mwy na dau’

“Yn fy marn i, mae’n beth da fod ydi gwleidyddion yn adlewyrchu cymdeithas,” meddai Richard Hopkin, ymgeisydd Etholiad Cynulliad, Ceidwadwyr Cymreig wrth Golwg360 cyn dweud ei fod yn “hollol agored fy mod i’n hoyw”.

“Mae mwy o ASau hoyw agored gan y Ceidwadwyr nag unrhyw blaid arall yn San Steffan. Ugain mlynedd yn ôl, mi fyddai’n wahanol iawn mae’n siŵr. Ond, mae’r byd wedi newid yn gyflym.

“Mae’n rhaid bod mwy na dau ymgeisydd hoyw yn y Cynulliad. Mae synnwyr cyffredin yn dweud hynny.”

‘Mater personol’

“Mae’n fater personol i bobol,” meddai Richard Hopkin. “Ond, rwy’n hollol agored am fod yn hoyw, ac yn gyfforddus yn y blaid Geidwadol, sy’n estyn croeso mawr i bobl hoyw.

“Mi fyddai’n braf cael rhagor o wleidyddion hoyw yn y Cynulliad – ond dydw i ddim yn cytuno â rhai pobl sy’n dweud bod angen rhywun hoyw neu o leiafrif ethnig i ddeall yr etholwyr hynny. Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn gallu cynrychioli pawb.

“O fod yn wleidydd, mae’n rhaid i chi allu rhoi eich hunain yn esgidiau pobol eraill, a deall pobol o bob math o gefndiroedd.”