Kirtsy Williams,
arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, sy’n dadlau o blaid cefnogi’r blaid yn Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai…

Rhaid i gyfnod newydd o ddatganoli ddechrau nawr.  Mae’r etholiad hwn yn ymwneud â’r math o lywodraeth sydd ei hangen ar Gymru.  Dim mwy o esgusodion.  Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn meddwl bod Cymru’n haeddu gwell.

Rydym yn byw mewn dyddiau anodd.  Pan fo pob teulu a busnes yn gorfod gwneud i bob punt ymestyn ychydig ymhellach.  Mae angen llywodraeth ar Gymru sy’n gwneud yr un peth.

Yn lle hynny, mae gennym weinyddiaeth Llafur-Plaid sydd wedi troi gwastraff ac anallu yn gelfyddyd.

Ni allwn barhau fel hyn. Mae’r bwlch yn lledu rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Ma gynnon ni economi wan, ysgolion sy’n cael eu tanariannu a GIG sy’n costio mwy ond sy’n cyflwyno llai.

Mae Llywodraeth Llafur-Plaid wedi gwario mwy o arian ar ddatblygu economaidd nag unrhyw ran o’r DU ond Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig ac rydym yn mynd ymhellach ar ei hôl o hyd.

Ar un adeg roedd ysgolion a system addysg Cymru yn destun cenfigen yn y DU. Nawr, mae cymariaethau rhyngwladol yn dangos bod canlyniadau Cymru o ran darllen a mathemateg wedi disgyn ar ei hôl hi’n sylweddol a bod myfyrwyr Cymru’n disgyn ar ôl eu cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cafodd GIG Cymru ei ad-drefnu’n ddrud gan lywodraeth Llafur-Plaid.  Ond maent wedi methu â  mynd i’r afael â gwastraffu adnoddau.  Er ein bod yn gwario mwy fesul unigolyn ar y GIG nag yn Lloegr, rydym yn goddef canlyniadau gwaeth – amserau aros hirach, amserau ymateb arafach gan ambiwlansys, safonau is o ran triniaeth canser.

Ar yr economi, bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn creu swyddi a gwella ein heconomi drwy gynnig £2000 i gwmnïau ar gyfer hyfforddi staff os byddant yn rhoi swyddi i bobl ifanc ddi-waith a sefydlu Rhaglen Arloesi i fuddsoddi yn yr isadeiledd mae ar economi ffyniannus ei angen.

Ar addysg, bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn mynd i’r afael â’r bwlch o ran gwario, gan ddarparu mwy o arian i ysgolion ac anelu arian ychwanegol at ddisgyblion sydd ei angen fwyaf fel y gall ysgolion fforddio buddsoddi yn y pethau sydd wirioneddol o bwys, fel dosbarthiadau llai neu addysgu unigol. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu newydd ar gyfer athrawon, gan godi safonau a herio ein hathrawon fel ein bod yn cyflawni pethau dros ein plant.

Ar ein hiechyd, bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn lleihau eich amserau aros drwy leihau gwastraff. Byddwn yn gwella gofal iechyd drwy gael gwared ar wario aneffeithiol yn y GIG a’i fuddsoddi yn y rheng flaen. Byddwn hefyd yn gwella gofal a chefnogaeth ar gyfer pobl hŷn a’r rhai sy’n agored i niwed drwy sicrhau y cewch chi ddewis y gofal mae y arnoch ei angen, pan ydych chi ei angen.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn credu y gall Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r her sydd yn ein wynebu. Byddwn yn mynd ati’n ddi-ildio i sicrhau bod gwerth am arian, gan wario’n well a chael gwared ar wastraff.

A thrwy roi ffydd yn ôl yn y bobl hynny sy’n uchelgeisiol dros ein gwlad – yr entrepreneuriaid a’r athrawon, y meddygon a’r ffermwyr ac arweinwyr y cymunedau, gallwn wneud yn siwr ein bod, fel cenedl, mor uchelgeisiol â hwythau.