Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhuddo’r pleidiau eraill o drin Etholiadau’r Cynulliad fel “pôl piniwn hanner tymor ar San Steffan”.

Bydd y blaid yn lansio ei maniffesto a’i hymgyrch etholiadol heddiw gan addo adfywio ysgolion ac economi Cymru.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones mai ei blaid ef oedd yr unig un oedd yn rhoi blaenoriaeth i Gymru.

Ymysg y blaenoriaethau yn y maniffesto mae ymrwymiad i fynd i’r afael ag anllythrennedd, creu swyddi, a buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth a thechnoleg.

“Does gen i ddim amheuaeth fod y Cynulliad bellach wedi ennill ei le yn rhan annatod o’n gwlad fodern ni,” meddai Ieuan Wyn Jones.

‘Trawsnewid’

“Plaid Cymru yw’r unig blaid yn yr etholiad yma fydd eisiau trawsnewid Cymru, yn ogystal â’i rheoli.

“Fe fydd hynny’n her o ganlyniad i’r hinsawdd economaidd sydd wedi ei greu a’i gynnal gan y tair plaid yn San Steffan.

“Ond yn wahanol i’r Blaid Lafur, ni fydd Plaid Cymru yn defnyddio hynny fel esgus i wneud jobyn gwael.

“Rydyn ni’n bwriadu codi’r safon. Ac rydyn ni’n credu y bydd ein pedwar addewid ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yn codi disgwyliadau pobol y wlad.”

Llywodraeth yr M4

Fe fydd llywydd Plaid Cymru, yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans, hefyd yn siarad yn ystod lansiad maniffesto’r blaid yn Neganwy, Conwy, heddiw.

“Yn Llywodraeth Cymru’n Un roedd gyda ni weinidogion Plaid oedd yn deall anghenion cefn gwlad Cymru yn ogystal â’n cymunedau trefol – y gogledd yn ogystal â’r de.

“Fe fyddai’n drychineb i Gymru pe bai Llafur yn gallu dychwelyd i’r dyddiau pan nad oedden nhw’n gwasanaethu unrhyw gymunedau tu hwnt i’r M4.”