Mae dynes 35 oed o Abertawe wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng ei char a lori ym Mhowys ddoe.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 11.30pm ar yr A483 ger Llanbadarn Fynydd.
Roedd y ddynes yn gyrru car Ford Mondeo arian ac fe fu farw yn y fan a’r lle, meddai’r heddlu. Ni chafodd gyrrwr y lori ei anafu.
Cafodd yr A483 rhwng Dolfor a Crossgates ei gau am wyth awr ar ôl y ddamwain.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 01267 222020.
Gwrthdrawiad: Dynes wedi marw