Mae’r gwasanaethau brys wedi dweud eu bod nhw’n amau fod tân mewn hen ysbyty yng Nghaernarfon wedi ei ddechrau yn fwriadol.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i hen ysbyty cymunedol Bryn Seiont ar Ffordd Pant ar gyrion de-orllewinol y dref, am 9.20pm neithiwr.

Dywedodd llefarydd bod y tân “wedi ei gynnau yn fwriadol ac fe fydd yna ymchwiliad”.

Roedd wedi achosi difrod sylweddol i’r adeilad, meddai.