Peter Dixon, a gafodd ei lofruddio ar lwybr arfordir Sir Benfro
Bydd rheithgor achos llys dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio pedwar o bobol Benfro yn ymweld â safleoedd y troseddau honedig dros y deuddydd nesaf.

Bydd 12 o ddynion a merched yn ymweld â lleoliadau gwahanol yn Sir Benfro lle digwyddodd y llofruddiaethau.

Fe fyddan nhw hefyd yn ymweld â sawl man arall a fydd yn cael eu trafod yn ystod yr achos llys 10 wythnos yn Llys y Goron Abertawe.

Bydd y daith yn dilyn amserlen lem ac fe fydd angen cau sawl ffordd. Dim ond ar droed y mae’n bosib cyrraedd sawl un o’r llefydd.

Yr achos llys

Mae John Cooper, 66,o Dreletert, ger Abergwaun, wedi ei gyhuddo o lofruddio pedwar person trwy eu saethu.

Cafodd y byrgler ei arestio yn 2009, tua 25 mlynedd ers y llofruddiaethau yn yr 80au. Roedd newydd ei ryddhau o’r carchar ar ôl treulio 10 mlynedd o ddedfryd 16 mlynedd o hyd am fyrgleriaeth.

Honnir ei fod wedi saethu’r miliwnydd Richard Thomas, 58, a’i chwaer Helen, 54, ym mis Rhagfyr 1985.

Cafodd y ddau eu saethu’n agos yn ffermdy Parc Scoveston, ger Aberdaugleddau. Cafodd y tŷ ei roi ar dân.

Mae John Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio Peter Dixon, 51, a’i wraig Gwenda, 52, bedair blynedd yn ddiweddarach.

Ymosodwyd ar y ddau wrth iddyn nhw gerdded ar hyd llwybr arfordirol ger yr Aber Bach ym mis Mehefin 1989.

Mae John Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o bum lladrad arfog treisgar ar bum person ifanc mewn cae yn Aberdaugleddau ym mis Mawrth 1996.

Yr honiad yw ei fod wedi treisio un ferch ysgol, ac ymosod yn anweddus ar un arall, yn ystod yr ymosodiad.

Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Y daith

Bydd taith y rheithgor yn ymweld â phob un o safleoedd y troseddau a hefyd cartref John Cooper ar y pryd yn St Mary’s Park, Jordanston.

Bydd y daith yn dechrau gydag ymweliad â llwybr yr arfordir ger Aber Bach lle cafodd Peter a Gwenda Dixon eu llofruddio.

Yn ddiweddarach fe fydd y rheithgor yn ymweld â Pharc Scoveston lle bu farw Richard a Helen Thomas.

Yfory fe fydd y rheithgor yn ymweld â chyn gartref John Cooper a safle’r ymosodiad ar y bobol ifanc yn 1996.

Fe fydd yr achos llys yn parhau fore dydd Iau.