Cerys Matthews
Bydd y gantores Cerys Matthews â’r canwr John Owen-Jones yn ymuno â’r gyflwynwraig Alex Jones i agor Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe a’r Fro eleni.

Mae Cerys Matthews, sy’n wreiddiol o Gaerdydd ac wedi ei magu yn Abertawe a Sir Benfro, hefyd wedi derbyn gwahoddiad y Pwyllgor Gwaith lleol i fod yn un o Lywyddion yr Ŵyl.

Bydd seren y rhaglen Britain’s Got Talent, Shaheen Jafargholi, y grŵp clasurol Elysium lll, disgyblion Ysgol Gerdd Mark Jermin ac eraill yn cymryd rhan yn y Cyngerdd Agoriadol.

Cerys a’r Urdd

“Roedd Eisteddfodau yn rhan o’m magwraeth i yn Abertawe, er nad oeddwn yn llwyddianus iawn fel cystadleuydd!” meddai Cerys Matthews.

“Felly bydd dychwelyd y tro hwn fel Llywydd y Dydd i’r Maes yn Felindre yn wych ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr.

“Dwi byth yn blino gweld brwdfrydedd plant o bob rhan o Gymru ac o bob cefndir yn trio eu gore. Does dim ots os ydyn nhw’n chwarae cerddoriaeth, canu, dawnsio neu gystadlu yn y celfyddydau gweledol neu lenyddiaeth, mae eu ymdeimlad o hwyl yn heintus.

“Bydd cael y cyfle i gystadlu flwyddyn ar ôl blwyddyn o flaen cynulleidfa fyw yn blatfform i rai barhau i berfformio fel y gwnaeth i Bryn Terfel, Aled Jones a Connie Fisher ond mae hefyd yn golygu y bydd pob cenhedlaeth newydd yn dysgu a mwynhau ein treftadaeth ddiwylliannol anhygoel.

“Mi fyddaf i hefyd yn mynd ati i edrych yn y drysorfa Gymreig pan fyddaf yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol a chanu nifer o ganeuon Gwerin Cymreig yn ogystal â rhai o fy nghaneuon mwy newydd.”

‘Llawn cyffro’ – yr Urdd

“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn o gyhoeddi bod Cerys Matthews yn ymuno â’r rhestr faith o enwau talentog fydd yn rhan o Gyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a’r Fro,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

“Mae’r Eisteddfod yn Abertawe eleni yn argoeli’n un arbennig iawn. O’r Cyngerdd Agoriadol, gyda pherfformiadau sy’n siŵr o godi’r to i sioeau llawn asbri a gaiff eu perfformio gan blant ysgolion lleol. Bydd hon yn ŵyl i’w chofio.”

Mae tocynnau’r cyngherddau o £10 ac ar gael drwy ffonio 0845 257 1639 neu urdd.org/eisteddfod.