Helen Mary Jones
Mae Plaid Cymru wedi honni nad oedd gan Lafur unrhyw ddiben newid y system sy’n penderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i Gymru bob blwyddyn.

Ym mis Gorffennaf 2009 dywedodd Comisiwn Holtham bod Cymru yn cael ei thangyllido o ryw £300 miliwn bob blwyddyn gan Fformiwla Barnett.

Dywedodd y blaid fod cais rhyddid gwybodaeth yn profi na wnaeth na wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddim i godi’r mater gyda’r Trysorlys pan oedd y Blaid Lafur mewn grym yn San Steffan.

“Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru na fu un adeg rhwng 2005, a’r pryd y gadawsant y swydd yn 2010, y gwnaeth Swyddfa Cymru dan Lafur gysylltu gyda’r Trysorlys i drafod diwygio fformiwla Barnett,” meddai llefarydd ar ran y Blaid.

Dywedodd Helen Mary Jones, fydd yn gobeithio cadw gafael ar ei sedd yn Llanelli yn yr etholiad ar 5 Mai, fod  y cyfan yn “sarhad ar bobol Cymru”.

“Mae’n warthus ac yn anfaddeuol, hyd yn oed wedi i gomisiwn annibynnol Holtham godi’r llen ar yr anghyfiawnder hwn unwaith ac am byth, fod gwleidyddion Llafur yn dal wedi eistedd ar eu dwylo a gwneud dim,” meddai Helen Mary Jones.

“Fe wyddom, trwy gydol 12 mlynedd gyntaf llywodraethau Llafur yn y Cynulliad, na wnaed unrhyw ymdrech ar unrhyw lefel i gael cyllido teg i Gymru. Nawr, trwy’r cais Rhyddid Gwybodaeth hwn, gallwn weld fod y diffyg gweithredu a welsom gan Lafur ym Mae Caerdydd yr un fath y pen arall i’r M4.

“Mae’n warthus fod Ysgrifenyddion Gwladol Llafur yn San Steffan wedi cael tystiolaeth Comisiwn Holtham, oedd yn dangos yn ddiamheuaeth fod Cymru ar ei cholled o £300m y flwyddyn, ac eto wedi dewis gwneud dim. Maent wedi dewis anwybyddu’r annhegwch hwn ac mae wedi gadael cymunedau Cymru’n cyfrif y gost.

“Mae’r ofnadwy meddwl y gellid bod wedi gwario miliynau ar godi ysbytai, cau’r bwlch mewn cyllid addysg neu gefnogi busnesau, ond oherwydd blerwch ac anwybodaeth Llafur, fod hyn wedi ei golli.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur bod Plaid Cymru yn “ail ysgrifennu hanes” am eu bod nhw “mewn argyfwng” cyn Etholiadau’r Cynulliad.