Peter Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru
Mae grŵp gwleidyddol newydd yn bwriadu cynnal ymgyrch yn galw ar etholwyr i bleidleisio dros unrhyw un ond y Blaid Lafur.

Mae’r grŵp ‘Unedig a Chymreig’ yn bwriadu talu am hysbysebion mewn papurau lleol mewn seddi agos.

Maen nhw’n galw am bleidlais strategol yn erbyn y Blaid Lafur “nes eu bod nhw’n datrys eu ffrae fewnol ac yn rhoi’r gorau i frwydro yn erbyn ei gilydd”.

Mae’r hysbyseb, sydd i’w weld ar flog gwleidyddol Blogmenai, yn galw am bleidleisio dros y Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Bro Morgannwg a Gŵyr.

Mae hefyd yn galw am bleidleisio dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin, Caerffili, Conwy a Castell-nedd.

Gelwir am bleidlais dros y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Canol Caerdydd, Maldwyn, Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod nhw’n drwgdybio mai cefnogwyr Plaid Cymru oedd y tu cefn i’r hysbysebion.

Roedd yn amheus eu bod nhw’n galw am bleidlais dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, sedd sydd ar hyn o bryd yn nwylo’r Ceidwadwyr, meddai.