Parc Cenedlaethol Los Glaciares Patagonia
Mae rhewlifoedd De America yn toddi’n gynt nag ar unrhyw adeg yn ystod y 350 mlynedd diwethaf, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser o’r brifysgol, a fu’n arwain yr ymchwil, fod y rhewlifoedd bellach yn toddi 100 gwaith yn gynt na’r cyfartaledd tymor hir.

Roedd hynny yn ei dro yn golygu bod lefelau’r môr hefyd yn codi ar y raddfa gyflymaf er 350 mlynedd, meddai.

Mae gwyddonwyr o brifysgolion Aberystwyth, Exeter a Srockholm wedi bod yn astudio 270 o’r rhewlifoedd mwyaf ym Mhatagonia.

Fe fuon nhw’n cymharu maint y rhewlifoedd heddiw gyda’u maint yn ystod yr Oes Iâ Fach ganol y 17eg ganrif, pan oedden nhw’n llawer mwy.

Roedd yr ymchwil yn dangos bod y rhewlifoedd wedi toddi 100 gwaith yn gynt dros y 30 mlynedd diwethaf na’r cyfartaledd yn ystod y 350 mlynedd diwethaf.

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Nature Geoscience roedd cyfraniad y rhewlifoedd at lefel y môr yn fyd eang hefyd wedi cynyddu.

“Roedd y rhewlifoedd wedi colli llai o iâ na’r disgwyl tan 30 mlynedd yn ôl,” meddai Neil Glasser.

“Ond beth sy’n codi ofn yw eu bod nhw wedi bod yn colli 100 gwaith cymaint o iâ dros y 30 mlynedd diwethaf.”