Llys Ynadon Caerdydd
Bydd dau brotestiwr fu’n ymgyrchu yn erbyn tocio cyllideb S4C yn wynebu Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

Mae Jamie Bevan o Ferthyr Tudful, a Heledd Melangell Williams o Nant Peris, wedi eu cyhuddo o fwrgleriaeth.

Yr honiad yw eu bod wedi torri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith roedd y weithred yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i dorri grant S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.

Dywedodd Jamie Bevan eu bod nhw wedi gweithredu “mewn modd mor ddifrifol er mwyn tynnu sylw at ddifrifoldeb yr argyfwng sydd yn wynebu S4C”.

“Llwyddwyd i newid trywydd y llywodraeth yn yr ymgyrch wreiddiol i sefydlu’r sianel. Rhaid nawr cynyddu’r pwysau er mwyn sicrhau bod y llywodraeth bresennol yn rhoi i’r neilltu ei chynlluniau byrfyfyr a chynnal arolwg llawn i sefyllfa S4C,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at gael gwrandawiad llawn o flaen y llys lle byddwn yn tynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa a’r rhesymau moesol dros weithredu yn y modd a wnaethom.”

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith ey bod nhw’n disgwyl mai achos trosglwyddo fydd yr achos heddiw ac y bydd yr achos llys llawn yn cael ei gynnal rywbryd eto.

“Nid ar chwarae bach y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gweithredu mor ddifrifol. Mae llywodraeth Prydain wedi diystyru pobl Cymru o’r dechrau yn ystod y broses hon,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Fe wnaethon nhw benderfyniad munud olaf ar ddyfodol S4C, heb ymgynghori o gwbl gydag S4C na gweinidogion yng Nghymru; ac yn ddiweddar mae Jeremy Hunt wedi anwybyddu galwadau gan arweinwyr yr holl bleidiau yng Nghymru am arolwg llawn o S4C cyn gwneud penderfyniad.”