Carwyn Jones - ymosod ar y Ceidwadwyr
Mae dwy blaid y Llywodraeth wedi addo cynyddu gofal am ddim i blant ar ôl yr etholiad nesa’.

Ar drothwy Sul y Mamau, fe wnaeth Llafur a Phlaid Cymru fel ei gilydd addo cynnal cefnogaeth i lefydd meithrin a gofal am ddim a chynnig gwneud rhagor.

Fe fyddai Llafur yn cadw’r polisi o gynnig brecwast am ddim i blant, meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, sy’n arwain ymgyrch y blaid. Roedd yn ymosod ar y Ceidwadwyr wrth wneud hynny.

“Mae Torïaid Cymru eisoes wedi addo cael gwared ar frecwastau ysgol am ddim a thorri cyllideb ysgolion o 20%,” meddai.

“Yn groes i hynny, fe fyddwn ni’n dyblu nifer y plant sy’n elwa o well gwasanaeth ymwelwyr iechyd ac yn rhoi llefydd mewn meithrinfeydd am ddim trwy ein rhaglen, Dechrau’n Deg.”

A thrwy’r Gymraeg, meddai Plaid

Roedd Plaid Cymru hefyd yn addo mwy o lefydd meithrin a gofal plant am ddim, gan bwysleisio bod hynny’n cynnwys llefydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Maen nhw hefyd yn addo gwella hyfforddiant i weithwyr yn y maes.

“Fe fydd cynnig gofal plant am ddim i filoedd o bobol yn llythrennol yn newid bywydau er gwell,” meddai ymgeisydd y blaid yn Llanelli, Helen Mary Jones.