Heddlu Gogledd Cymru
Mae gwr wedi ymddangos o flaen llys ynadon yn Sir y Fflint heddiw, ar gyhuddiad o geisio lladd ei wraig.

 Mae Robert Robinson, 61 oed, o Dreffynnon wedi ei gyhoddu o geisio llofruddio ei wraig, Susan, ac fe fu o flaen ynadon Yr Wyddgrug y bore yma.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa, ac ni waned cais am fechnïaeth. Fe fydd yn ymddangos eto yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug, ddydd Gwener, Ebrill 8.