Nerys Evans
Mae Plaid Cymru’n galw am i Gymru gael cyfrifoldeb am ei hadnoddau dŵr, am gynlluniau ynni mawr ac am holl diroedd y Goron yn y wlad.

Fe fydd yr alwad yn rhan o faniffesto’r blaid yn etholiadau’r Cynulliad ym mhen y mis ac maen nhw’n dweud ei fod yn hanfodol cael rheolaeth tros adnoddau naturiol.

Ar hyn o bryd, mae’r penderfyniadau am gynlluniau ynni mawr yn cael eu gwneud gan Gomisiwn Prydeinig ac Ystadau’r Goron sy’n berchen ar rannau eang o gefn gwlad, gwely’r môr am 12 km o’r lan a 65% o holl draethau a glannau Cymru rhwng lefel llanw a thrai.

Mae hynny’n golygu bod yr Ystadau’n allweddol yn y broses o ddatblygu ynni llanw ac ynni gwynt yn y môr. Ar hyn o bryd, mae’r incwm yn mynd yn uniongyrchol i’r Trysorlys yn Llundain.

‘Potensial anferth’

“Mae gan Gymru botensial  ynni anferthol, ac eto mae’r rheolaeth dros lawer rhan ohono yn dal i fod gyda San Steffan,” meddai Cyfarwyddwr Polisi Plaid Cymru, Nerys Evans.

“Gallai Cymru arwain y byd o ran cynhyrchu ynni gwyrdd, a gallem greu miloedd o swyddi yn y sector – ond, yn wahanol i’r Alban, cadwyd penderfyniadau dros bob prosiect ynni mawr yn fwriadol yn Llundain gan y Llywodraeth Lafur flaenorol.

“Bydd trosglwyddo’r cyfrifoldebau hyn yn rhoi’r gallu i Gymru gynllunio ei hanghenion dŵr ac ynni yn iawn am y 50 mlynedd hanfodol nesaf, ac yn gwneud ein cenedl yn fwy gwydn gan leihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni allanol.”