Er eu bod nhw wedi cael eu beirniadu’n hallt am gecru ymysg ei gilydd yn hytrach na chydweithio dros Fôn, mae gan y cynghorwyr sir yno rôl o hyd yn y gwaith y redeg yr ynys.
Pont Britannia

Dyna neges un o’r pum comisiynydd sydd wedi eu penodi gan Lywodraeth Cymru i gael trefn ar lwyodraeth leol yno.

Yr wythnos hon roedd Alex Aldridge yn cyfarfod y 40 o gynghorwyr sir sydd gan yr ynys, i gynnig sicrwydd y bydd yn gwrando arnyn nhw.

“Yn ystod cyfarfod positif, mi roddon ni sicrwydd absoliwt y byddwn ni’n parchu hawliau’r cynghorwyr sir hynny sydd wedi eu hethol gan bobol Môn. Maen bwysig ei gwneud yn gwbwl glir bod gan bob cynghorydd yr hawl i gynrychioli ei etholwyr, heb unrhyw rwystr, ar bob cyfrif,” meddai.

Comisiynwyr i adael ymhen blwyddyn?

Roedd y Comisiynwyr hefyd am bwysleisio nad oeddan nhw ar yr ynys i ymchwilio i unrhyw gwynion o’r gorffennol.

Mi fyddan nhw yn parhau i oruchwylio’r cyngor tan o leia’ fis Mai 2012, ond y gobaith yw dychwelyd yr awennau i’r cynghorwyr wedi hynny, yn amodol ar sêl bendith Llywodraeth Cymru.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at ddeialog barhaus a rheolaidd gyda’r aelodau etholedig yn ogystal â’r dwirnod pan fyddan ni’n trosglwyddo grym yn ffurfiol yn ôl i ddwylo’r rheiny sydd wedi ennill ffydd a chefnogaeth pobol Môn yn y blwch pleidleisio,” meddai Alex Aldridge.