Y byncer
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi adfer byncer o’r Ail Ryfel Byd fyddai wedi ei defnyddio er mwyn brwydro’n ôl yn erbyn y Natsïaid pe baen nhw wedi cyrraedd y wlad.

Byddai’r byncer concrit wedi bod yn gartref i’r ‘Unedau Atodol’ cyfrinachol, a sefydlwyd er mwyn helpu’r fyddin i wrthymosod pe bai Prydain yn cael ei meddiannu.

Mae’r byncer wedi’i leoli ger lôn yn y goedwig, sy’n eiddo i Lywodraeth y Cynulliad, ac roedd wedi diflannu dan lystyfiant ac mewn cyflwr gwael ar ôl blynyddoedd maith o esgeulustod.

Gofynnodd y Comisiwn i Dîm Ymchwil Unedau Atodol Coleshillm, grŵp cenedlaethol o haneswyr ac ymchwilwyr, i ail-greu hanes dirgel y guddfan radio yng Nghoetir Coed Coesau-Whips, ger Rhydri.

Gyda’u cymorth nhw, ac ar ôl gwneud apêl am wybodaeth mewn papur newydd lleol, aeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru ati i ymchwilio i hanes cudd y goedwig.

Tynnwyd gwerth degawdau o sbwriel o’r byncer, crëwyd llwybr ato o’r lôn, a chodwyd ffens i atal pobl rhag disgyn neu ddringo i mewn iddo.

“Rydym bob amser wedi dweud bod ein coedwigoedd yn chwarae rhan allweddol mewn darparu amrywiaeth eang o fuddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, ond mae’r byncer hwn yn ein hatgoffa o amser pan oeddynt yn bwysig am reswm hollol wahanol,” meddai Emma Louise Felkin, Ceidwad Coedwig gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

“Mae’n bwysig i ni gofio ein gorffennol ac roeddem yn falch iawn bod Tîm Ymchwil Unedau Atodol Coleshillm yn gallu ein helpu i ddiogelu’r rhan hynod ddiddorol hon o’n gorffennol.”

Cuddfan

Daeth Will Ward, un o aelodau Dîm Ymchwil Unedau Atodol Coleshillm, i’r casgliad y buasai’r byncer yn guddfan ar gyfer un o’r Unedau Atodol gan ei fod ar dir uchel ac yn agos at dai.

Grwpiau cyfrinachol iawn a oedd wedi derbyn hyfforddiant arbennig oedd yr Unedau Atodol, neu’r Fyddin Ddirgel.  Cafwyd eu sefydlu gyda’r nod o wrthsefyll goresgyniad Prydain gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Byddai’r bynceri wedi cael eu defnyddio i ddarparu cyswllt radio rhwng y grwpiau wrth iddynt sbïo ar symudiadau’r gelyn.

Byddai’r brif fynedfa wedi llithro i ffwrdd, fel y gellid cuddliwio’r byncer gyda phridd a dail. Byddai gan y siambr gyntaf cuddliw hefyd, i wneud iddi edrych fel ffau potswyr mae’n debyg, a byddai’r brif siambr, lle byddai’r sawl a weithredai’r radio yn llechu, wedi’i chuddio y tu ôl i hon.

“Mae diogelu safleoedd fel hyn yn wirioneddol bwysig gan eu bod yn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld sut yr oedd aelodau Unedau Atodol Churchill yn byw,” meddai sylfaenydd Tîm Ymchwil Unedau Atodol Coleshillm, Tom Sykes.

“Pe bai Hitler wedi glanio, byddai hyd at wyth o ddynion wedi cael eu lleoli mewn bynceri tebyg i’r rhain a byddent wedi byw oddi ar y tir a’u dognau. Mae’n wych bod Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn annog pobl i ddysgu mwy am eu hanes.”