Rhodri Glyn Thomas
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi dweud y byddai’r blaid yn cyflawni “hunanladdiad” pe bai’n mynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, sy’n gobeithio cael ei ail-ethol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, nad oedd yn credu y byddai Plaid Cymru yn gallu dod i gytundeb â’r Torïaid.

“Rydw i’n credu y byddai ein plaid yn cyflawni hunanladdiad drwy fynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr, o ystyried beth maen nhw yn ei wneud yn San Steffan,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Beth bynnag y maen nhw’n ei gynnig, alla’i ddim gweld y blaid yn cytuno.”

Dywedodd nad oedd yn awgrymu mai ail glymblaid â’r Blaid Lafur oedd yr unig ffordd ymlaen.

“Serch hynny dyw meddwl am lywodraeth Llafur yn unig ar ôl 5 Mai ddim yn fy ysbrydoli i o gwbl. Dw i’n amau a oes digon o dalent o fewn y blaid Lafur i ddarparu 10 gweinidog a rhagor o ddirprwy-weinidogion.”

Daw sylwadau Rhodri Glyn Thomas ar ôl i’r Blaid Lafur gyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio taro bargen â Phlaid Cymru cyn dechrau ymgyrch Etholiadau’r Cynulliad.

Dywedodd y Ceidwadwyr ei fod yn bwysig fod gan Gymru “lais newydd” ar ôl yr etholiad, ond gwadodd Plaid Cymru fod y Ceidwadwyr wedi cysylltu â nhw’n ffurfiol.