HIV
Mae pennaeth elusen HIV yn dweud y gallen nhw fod wedi achub pobol rhag y cyflwr pe baen nhw wedi cael cadw cytundeb i gynnal ymgyrch iechyd cyhoeddus.

Mae hefyd yn dweud y byddai parhau i’w cefnogi nhw wedi arbed arian yn y pen draw.

Fe ddangosodd ffigurau newydd bod 142 o bobol wedi cael clywed y llynedd bod HIV arnyn nhw ond, yn ôl Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, fe allen nhw fod wedi helpu i atal peth o hynny.

Maen nhw’n pryderu bod HIV ar gynnydd ymhlith dynion hoyw ac yn dweud bod angen gweithio yn y gymuned a defnyddio dulliau anffurfiol i gael effaith.

Y cefndir

Y llynedd, fe gollodd yr Ymddiriedolaeth gytundeb i gynnal rhaglen o’r enw CHAPS (Community HIV and Aids Prevention Strategy) ac o ganlyniad fe fu’n rhaid iddyn nhw ddiswyddo un gweithiwr maes.

Roedd CHAPS yn gweithio gyda phobol mewn llefydd fel bariau a chlybiau ac yn ôl yr Ymddiriedolaeth, roedd hynny’n gweithio.

“Roedd yn bwysig gallu helpu pobl un ac un yn y gymuned, nid mewn awyrgylch clinigol neu feddygol,” meddai Pete Clark, Cyfarwyddwr Cenedlaethol yr  Ymddiriedolaeth  yng Nghymru wrth Golwg360.

‘Cywilydd’

“Mae’n gywilydd nad oes gan wlad maint Cymru ymgyrch HIV swyddogol,” meddai Pete Clark. “Mae gwir angen rhaglen ar Gymru – sy’n cael ei rhedeg gan Gymru. Dyw HIV ddim wedi ddiflannu – yn arbennig ymhlith dynion sy’n cysgu â dynion.

“Mae’n costio mwy na £50,000 y flwyddyn i gadw un person ar gyffuriau gwrth-HIV. Ein dadl ni yw y byddai parhau i gyllido CHAPS wedi atal o leiaf un o’r achosion hynny.”

“Petai’r wybodaeth mewn bariau – gallai fod wedi atal yr achosion hyn… Mae cynnydd blynyddol yn nifer y dynion sy’n dal HIV drwy gysgu â dynion. Mae’n gategori risg uchel ac mae angen gwybodaeth am y peth.”

Ymateb y Llywodraeth

“Mae’r Cynllun Gweithredu Lles ac Iechyd Rhywiol ar gyfer Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd rhywiol a lles y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau mewn cysylltiaid ag iechyd rhywiol, ac i ddatblygu cymdeithas sy’n cynnal trafodaeth agored am berthynas, rhyw, a rhywioldeb,” meddai llefarydd.
“Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu Rhwydwaith Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan – gan gynnwys HIV, er mwyn rhannu gwybodaeth a hyrwyddo arfer da mewn iechyd rhywiol a’r Rhaglen Genedlaethol Atal HIV yng Nghymru.

“Mae’n  targedu grwpiau risg uchel (dynion sy’n cael rhyw gyda dynion a phobl sydd wedi dod i Gymru o wledydd risg uchel) fel dull effeithiol o atal trosglwyddo HIV”.