Safle Chwaraeon y BBC
Mae gwefan chwaraeon Cymraeg y BBC wedi dod i ben ar ôl 11 mlynedd, heddiw.

Mae unrhyw ymwelwyr â gwefan BBC Chwaraeon yn cael eu cyfeirio yn ôl at y brif dudalen newyddion Cymraeg.

Stori am falchder Aaron Ramsey wrth arwain tîm pêl-droed Cymru oedd yr erthygl olaf ar y safle.

Cyhoeddodd y BBC ddechrau mis Chwefror eu bod nhw’n bwriadu dod a’u gwasanaeth chwaraeon Cymraeg i ben.

Dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth bryd hynny fod y galw am y gwasanaeth yn isel iawn, a’u bod nhw eisiau buddsoddi mwy o’u hadnoddau yn y gwasanaeth newyddion.

Bydd unrhyw straeon chwaraeon mawr yn cael eu cynnwys ar hafan y dudalen newyddion, meddai.

Mae’r BBC wedi cyhoeddi toriadau o 25% i’w gwasanaethau ar-lein, a mae’n debyg bod 16 o swyddi wedi gorfod mynd ar y gwasanaeth ar y We yng Nghymru.