Adeilad y Cynulliad
Mae Llywydd y Cynulliad wedi galw am sicrwydd y bydd pleidleisiau’r etholiad ymhen pum wythnos yn cael eu cyfri’ dros nos.

Mae Dafydd Elis-Thomas yn poeni am fod rhai cynghorau’n gobeithio cyfri y diwrnod wedyn – roedd hi’n bwysig osgoi unrhyw oedi, meddai.

Mae wedi sgrifennu at y Comisiwn Etholiadol i fynegi ei bryder am yr ansicrwydd ac mae’r Comisiwn yn dweud y byddan nhw’n gweithio gyda Phrif Swyddog Etholiadol Cymru i sefydlu’r drefn.

Ond eu cyfrifoldeb cynta’, medden nhw, yw sicrhau bod y cyfri’n digwydd yn gywir ac yn y ffordd iawn.

“Mae cytundeb ar draws y Cynulliad ei bod yn bwysig bod y cyfri’n digwydd tros nos ar noson 5 Mai, yn hytrach na gohirio tan y diwrnod wedyn,” meddai’r Llywydd.

Eleni, yn ogystal â’r angen i gyfri’ dau bapur yn yr etholiad – un i’r etholaethau ac un i’r rhanbarthau – fe fydd rhaid i’r cynghorau gyfri’ pleidleisiau yn y refferendwm AV hefyd.