Prifysgol Bangor - yr undeb oedd yn trefnu
“Dim digon o ddiddordeb” yw’r rheswm am ddiffyg Cymraeg mewn gŵyl ym Mangor, meddai swyddog undeb myfyrwyr.

Mae arweinwyr myfyrwyr Cymraeg y ddinas wedi beirniadu Undeb y Myfyrwyr a chanolfan newydd y Brifysgol, Pontio, am nad oes cynhyrchiad Cymraeg yng Ngŵyl Ffrinj Bangor.

Maen nhw’n dweud nad oedd neb wedi gofyn iddyn nhw gymryd rhan ac, ar ôl cael eu beirniadu am ddiffyg swyddogion Cymraeg, y dylai Pontio wybod yn well.

Ond roedd cymdeithas ddrama wedi bod yn ceisio llwyfannu cynhyrchiad Cymraeg ac wedi methu â chael neb i ddod i glyweliadau, yn ôl Sharyn Williams, yr Is-lywydd Materion Cymreig a’r Gymuned ym Mhrifysgol Bangor.

‘Neb yn dod i glyweliadau’

“Yn anffodus, ni wedi bod yn trio dechre’ Cymdeithas Ddrama Cymraeg yn y Brifysgol – ond doedd dim digon o ddiddordeb gan fyfyrwyr i gymryd rhan,” meddai Sharyn Williams wrth Golwg360.

“Doedd dim myfyrwyr Cymraeg ar gael i gyd-weithio ar y project hwn. Mae llawer o fyfyrwyr Cymraeg yn mynd adre’ ar benwythnos.”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Pontio wrth Golwg360 nad oedd y Ganolfan yn gwneud â threfnu’r ŵyl ac mai eu hunig swyddogaeth nhw oedd “helpu i hyrwyddo”.

Wedi ein anghofio, meddai UMCB

“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi anghofio amdanon ni,” meddai Mair Rowlands, Llywydd Undeb Cymraeg Bangor. “Dw i’n siomedig hefyd nad yw Pontio wedi sylwi nad oes Cymraeg yno – er nad nhw oedd yn trefnu.”

Fe ddywedodd y byddai Aelwyd JMJ wedi mwynhau’r cyfle i berfformio a bod “hen ddigon o stwff” ganddyn nhw.

“Efallai mai camddealltwriaeth sydd wedi bod. Ond, dylai’r Undeb a Pontio fod wedi sylwi nad oedd Cymraeg yno – yn arbennig gan fod Pontio yn edrych dros y rhaglen ac eisiau cysylltu â’r gymuned.”

Yr Arlwy

  • B.E.D.S. yn cyflwyno – ‘A Night of Two Halves’ – “That Good Night” & ‘A Complicated Affair’ –  1 – 3 Ebrill, 7.30pm, Neuadd John Phillips.
  • ImpSoc yn cyflwyno – Impsoc Live!Comedi Byrfyfyr4 Ebrill, 9.00pm, Y Fenai.
  • SODA yn cyflwyno The Broadway Factor Caneuon o sioeau cerddorol5 & 7 Ebrill, 7.30pm, Neuadd Powis
  • Bangor Students’ Union & Pontio yn Cyflwyno ‘One Night Only’Cyflwyno-  B.E.D.S, Rostra, SODA & Impsoc! Drama, Comedi, CerddoriaethMercher 6 Ebrill, Neuadd John Phillips, 7.30pm
  • Rostra yn cyflwynoTwelth Night (Or what you will) 7 – 9 Ebrill, 7.30pm, Neuadd John Phillips