Arddangosfa sigarets
Fe fydd rhaid gohirio cyflwyno rheolau newydd i gyfyngu ar werthu baco, meddai’r Gweindiog Iechyd.

Mae brwydrau cyfreithiol yn Lloegr yn golygu ei bod yn “afrealistig” cyflwyno’r rheolau i wahardd dangos sigaréts yn yr hydref eleni, meddai Edwina Hart.

Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw llygad ar y datblygiadau ac yn ceisio cyflwyno’r rheoliadau cyn gynted ag sy’n bosib. Maen nhw hefyd yn cynnwys gwahardd peiriannau sigaréts.

“Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gyflwyno rheoliadau yng Nghymru i wahardd dangos cynnyrch tybaco wrth y cownter a gwahardd peiriannau gwerthu tybaco,” meddai Edwina Hart.

Roedd hi’n siarad ar ôl cyhoeddi adroddiad ar yr  ymgynghori a fu ynglŷn â’r rheoliadau.

Ysgogi

Yn ôl yr adroddiad mae arddangos cynnyrch tybaco yn ysgogi ei ddefnydd ac yn annog pobol ifanc i ddechrau ysmygu.

Mae hefyd yn dweud bod arddangos tybaco yn a thanseilio ymdrech pobol sydd am roi’r gorau i ysmygu, drwy annog prynu byrbwyll.

Y peryg gyda pheiriannau tybaco, yn ôl yr adroddiad, yw ei bod yn hawdd i bobol ifanc dan oed brynu ohonyn nhw.

“Dim ond 1% o gyfanswm y farchnad tybaco a gaiff ei werthu yn y peiriannau hyn, ond mae mwy nag 1% o’r gwerthiant i rai o dan 18 o’r peiriannau hyn,” meddai.