Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi arwyddo’n ffurfiol y Gorchymyn Cychwyn a fydd yn nodi’r cam olaf ar y llwybr i bwerau deddfu newydd i Gymru.

Cafodd drafft o’r Gorchymyn Cychwyn a gyflwynodd y Prif Weinidog i’r Cynulliad ei gymeradwyo’n unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad ddoe.

Bydd y Gorchymyn yn galluogi’r Cynulliad newydd a gaiff ei ethol ar 5 Mai i greu deddfau heb orfod gofyn am ganiatáu Llywodraeth San Steffan.

Bydd y pwerau newydd yn dod i rym ar 5 Mai, diwrnod Etholiadau’r Cynulliad.

“Mae hwn yn ddiwrnod gwirioneddol hanesyddol i Gymru fel cenedl. Rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i wneud ers datganoli,” meddai Carwyn Jones.

“Bellach gallwn ni gyflwyno cyfreithiau ar bynciau datganoledig heb orfod gofyn yn gyntaf am y pwerau oddi wrth Senedd y DU.

“Bellach gall y Cynulliad, gydag aelodau sy’n cynrychioli cymunedau ar draws ein gwlad gyfoethog ac amrywiol, weithredu er mwyn cyflawni ei uchelgeisiau. Ni fydd bellach yn llywio ein taith i’r dyfodol.

“Mae’n siŵr bod y gallu i gyflwyno ein cyfreithiau Cymreig ein hunain, yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru, yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes ein gwlad.

“Wedi dros 10 mlynedd o ddatganoli, sydd ynddo’i hun yn arwydd o’n twf fel cenedl, bydd Cymru o’r diwedd yn cyrraedd llawn oed.”

Pleidleisiodd pobol Cymru o blaid rhagor o bwerau i’r Cynulliad ar 3 Marwth.