Buwch
Mae sefydliad IBERS Aberystwyth wedi datblygu bwyd newydd ar gyfer gwartheg sy’n torri i lawr ar amlder eu rhechfeydd.

Nod yr ymchwil sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth San Steffan ydi lleihau faint o nwyon sy’n niweidiol i’r amgylchedd sy’n dod o ben-olau da byw.

Mae gwartheg a defaid yn cynhyrchu llawer iawn o fethan drwy dorri gwynt, meddai’r adroddiad.

Daeth sefydliad IBERS a Phrifysgol Reading i’r casgliad y byddai gwartheg yn gollwng 20% yn llai o fethan pe baen nhw’n bwyta hadau rêp.

Roedd defaid hefyd yn torri gwynt 33% yn llai aml ar ôl bwyta math arbennig o geirch.

“Mae’r ymchwil cyffrous yma yn dangos fod rywbeth mor syml â newid ein ffordd o fwydo anifeiliaid yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd,” meddai’r Gweinidog Amaeth yn LLundain, Jim Paice.

Mae amaeth yn cyfrannu 9% o’r holl nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng yng ngwledydd Prydain, yn ôl yr adran amaeth, DEFRA. Roedd hanner y nwyon hynny’n dod o ddefaid, gwartheg a geifr.