Dafydd Wigley
Mae Dafydd Wigley wedi beirniadu rhai o Arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol am bleidleisio yn erbyn ei gynnig i geisio diogelu S4C rhag toriadau ariannol a rhag y peryg o gael ei dileu neu ai had-drefnu ‘ar fympwy’ gweinidogion yn Llundain.

Fe gollodd cynnig cyn arweinydd Plaid Cymru o 197-162, gyda’r Arglwyddi Roger Roberts, Mike German a Jenny Randerson – Democratiaid Rhyddfrydol oll – yn pleidleisio’n erbyn.

Mae Dafydd Wigley wedi eu cyhuddo o dorri eu gair y bydden nhw’n brwydro’n erbyn cynigion y Llywodraeth.

“Roedd yr Arglwyddi Llafur wedi fy rhybuddio i beidio ag ymddiried yn y Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae’n amlwg fod sail i’w rhybuddion,” meddai’r Arglwydd Wigley.

“Rhywbeth hollol ffansïol yw eu honiad eu bod nhw wedi newid polisi’r Llywodraeth  ar saith o’r wyth maes sy’n bryder i S4C.

‘Un newid’

“Ar un mater yn unig y cafwyd unrhyw newid ym mholisi’r Llywodraeth neithiwr – fod yn rhaid i weinidogion yr Adran Ddiwylliant ymgynghori â Gweinidogion y Cynulliad cyn gwneud unrhyw newid i S4C.

“Mae hwn yn gam buddiol ymlaen, a dw i’n ei groesawu’n fawr,” meddai Dafydd Wigley. “Fodd bynnag, mae’r prif feysydd yn ansicr o hyd.

“Dyw cyllid S4C ddim wedi ei ddiogelu mewn cyfraith ac mi fydd o hyn allan ar drugaredd mympwy Llywodraeth y dydd. Does dim gwarant o gwbl o gyllid y tu hwnt i 2015.

Mae Golwg 360 yn ceisio cysylltu ag Arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn cael eu hochr nhw i’r stori.

Penderfynol – rhagor o sylwadau Dafydd Wigley

“Mae Llywodraeth San Steffan fel petaen nhw’n benderfynol o fynnu y bydd prif weithredwyr y  BBC ar dîm rheoli S4C – gan beryglu hanfod annibyniaeth S4C,” meddai Dafydd Wigley.

“Mae’r Llywodraeth yn dal i anwybyddu’r ffaith fod S4C a’r BBC ar hyn o bryd yn cystadlu am yr hawl i ddarlledu digwyddiadau megis rygbi a phêl-droed.

“Yn hyn o beth, ac mewn cystadleuaeth gyda chynhyrchwyr annibynnol, bydd gan y BBC yn y dyfodol yr holl gardiau o’u plaid”

“Os buddugoliaeth i’r DemRhyddion yw hyn – maen nhw’n dangos tlodi uchelgais truenus tros Gymru.”