Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn galwad bygythiol yn ymwneud â Chanolfan Huggard ar Heol y Tollau yng nghanol Caerdydd.

Cafodd heddlu arfog eu hanfon i ganol y ddinas “rhag ofn,” yn ôl Heddlu De Cymru, ac mae’r ganolfan i’r di-gartref wedi ei wagio a’i archwilio.

Yn ôl llygaid-dystion mae un person wedi ei arestio gan yr heddlu yn y fan a’r lle.

Mae’n debyg bod hofrenyddion yr heddlu yn cadw golwg uwchben Heol y Tollau (Stryd Customs House) ar hyn o bryd.

Does dim cadarnhad ynglŷn â beth sydd wedi digwydd yno eto, ond mae’r heddlu wedi gwadu honiadau bod bom yn yr adeilad.

Dywedodd llygaid-dystion fod yr heddlu wedi cau canol y ddinas i’r cyhoedd, a mae nifer o geir heddlu wedi ymgasglu yn yr ardal.

Rhagor i ddilyn…