Mae yna adroddiadau fod llawer iawn o heddlu arfog yng nghanol Caerdydd prynhawn ma.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ymateb i ddau ddigwyddiad ar wahân ynghanol y brifddinas.

Mae un yn ymwneud â dyn ar do adeilad y cyhoeddwr papurau newydd Media Wales. Mae yna adroddiadau fod dyn yn bygwth neidio i ffwrdd.

Mae heddlu arfog hefyd ar stryd Custom House ar ôl derbyn galwad ffôn bygythiol yn ymwneud â Chanolfan Huggard.

Mae’n debyg fod y ganolfan wedi ei gwagio a bod yr heddlu yn ei chwilio ar hyn o bryd.