Bws
Bydd rhwydwaith bysiau pellter hir newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw.

Fe fydd rhwydwaith presennol y TrawsCambria yn cael ei ymestyn ac fe fydd y llywodraeth yn buddsoddi £2.2m ynddo er mwyn gallu prynu 12 cerbyd newydd.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei alw’n TrawsCymru ac yn ymestyn ar draws cyfran helaethach o’r wlad.

Bydd gwasanaeth Bwcabus hefyd yn cael ei ymestyn.

Rhai newidiadau

Bydd 12 bws newydd yn teithio rhwng X40, gan gysylltu Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin a’r 704 rhwng Y Drenewydd ac Aberhonddu.

Bydd gan y bysiau hyn seddi mwy cyfforddus a mwy o le ar gyfer bagiau, meddai llywodraeth y Cynulliad.

Yn ogystal â hyn, bydd y gwasanaeth X40 yn rhedeg bob awr o Gaerfyrddin i Aberystwyth rhwng 6am a 8pm Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn.

Bydd y gwasanaeth 704 rhwng Y Drenewydd, Llandrindod, Llanfair ym Muallt, Aberhonddu a Merthyr Tudful yn cael ei ymestyn.

Fe fydd hynny’n cynnwys bws bob dwy awr o’r  Drenewydd i Ferthyr rhwng 6am a 8pm Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn.

Ymhlith y newidiadau eraill fydd gwell cysylltiadau rhwng Aberhonddu a’r Fenni, Abertawe a Llanymddyfri, yn ogystal â gwasanaeth newydd bob dwy awr rhwng Y Drenewydd a Chaerdydd.

Bwcabus

Bydd £350,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaeth Bwcabus, gan ymestyn y gwasanaeth yn ardal Dyffryn Teifi yn Sir Gâr a Cheredigion.

“Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig iawn i’r Llywodraeth, a dyna pam ein bod ni wedi cyhoeddi gwelliannau i wasanaethau bysiau rhwydwaith TrawsCambria,” meddai Ieuan Wyn Jones.

Ychwanegodd fod gwasanaeth TrawsCambria wedi ei gynnal ers 30 blynedd ac yn cludo un a hanner miliwn o deithwyr y flwyddyn.