Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth wedi i offer gwaith ffordd gael ei ddwyn ar gyrion Waunfawr, ger Caernarfon.

Roedd lleidr neu ladron wedi dwyn offer sy’n cynnwys pum bwced JCB a rholer mecanyddol oddi ar ochr ffordd ar gyrion Waunfawr rhwng Dydd Gwener 11 a Dydd Llun 14 Fawrth.

Roedd yr offer wedi’u gadael ar wair ar ymyl y brif ffordd sy’n mynd drwy Waunfawr, o gyfeiriad Caernarfon.

Fe ddylai unrhyw un a welodd rhywbeth amheus yn yr ardal, neu unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd gysylltu â PC 2369 Gwyn Hughes yng ngorsaf Heddlu Caernarfon ar 101.

Neu, mae’n bosibl cysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Dywedodd Louis Jones, perchennog cwmni adeiladu Dragon Civil Engineering yn Y Ffôr, Pwllheli, oedd yn berchen ar beth o’r offer, nad oedd o wedi gorfod rhoi cais yswiriant i mewn wedi 13 o flynyddoedd o redeg y cwmni adeiladu.

“Busnes teuluol ydan ni – mae gen i hogiau lleol yn gweithio i mi,” meddai.

“Os nad ydan ni’n cyflogi pobl ifanc – pwy fydd? Ma’ hyn yn effeithio arnyn nhw,” meddai cyn dweud mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael cytundeb gan Gyngor Gwynedd.