Mae Bwrdd Iechyd wedi anfon llythyron at 38 o gleifion yn eu rhybuddio fod perygl eu bod nhw wedi dal afiechyd ymenyddol marwol wrth gael llawdriniaeth.

Cafodd y llythyr ei anfon ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod rhywun gafodd llawdriniaeth yn un o ysbytai Abertawe Bro Morgannwg yn 2007 o bosib yn dioddef o Afiechyd Creutzfeldt-Jakob (CJD).

Mae’r person hwnnw yn parhau’n iach ar hyn o bryd. Serch hynny, mae pryder na gafodd yr offer eu diheintio digon ar ôl y llawdriniaeth.

Roedd pob un o’r cleifion y mae’r Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â nhw wedi derbyn llawdriniaeth rhwng 2007 a 2009. Mae un yn byw yn y gogledd a’r gweddill yn y canolbarth a’r gorllewin.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd yn “debygol iawn” fod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo i’r cleifion.  Maen nhw’n dweud mai dim ond chwe achos o’r math yma o drosglwyddo sydd erioed wedi bod trwy’r byd.

Ond y digwyddiad yma oedd y “cyntaf o’r maint yma yng Nghymru,” medden nhw.

“Does yr un achos o CJD wedi’i gadarnhau. Ond mae gennym ni un claf sydd â risg uchel a 38 person â risg isel iawn,” meddai Ymgynghorydd Clefydau Trosglwyddadwy Bwrdd Iechyd Cymru, Dr Jörg Hoffmann.

“R’yn ni’n gwybod bod pob offeryn llawfeddygol a gafodd ei ddefnyddio ar y grŵp o gleifion yma wedi cael eu golchi a’u diheintio.

“Ond mae’n bosib bod y proteinau sy’n achosi CJD, sef prions, wedi goroesi’r broses o ddiheintio, felly mae yna risg bach y gall yr afiechyd drosglwyddo.

“Does dim angen i unrhyw berson sydd wedi cael llawdriniaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ers 2007 boeni os nad ydyn ni wedi cysylltu â hwy.”