Ysbyty Treforys
Mae cynlluniau i wario bron £60 miliwn ar un o brif ysbytai Cymru yn mynd yn eu blaen.

Yn ôl y Llywodraeth, fe fydd y gwaith yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn gwella llawer o adnoddau arbenigol ac yn sicrhau nad oes dyblygu gwaith rhyngddi ac Ysbyty Singleton yn y ddinas.

Fe gadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, bod y Llywodraeth yn rhoi arian i weithredu cynlluniau’r Bwrdd Iechyd yn yr ardal.

Fe fydd rhai o’r prif newidiadau’n cynnwys:

  • Cael gwared ar hen adeiladau a godwyd yn yr 1940au.
  • Adnoddau endosgopeg i gynnal archwiliadau mewnol.
  • Uned arbennig i gynnwys yr holl waith ar ail-lunio wynebau a thrin y pen a’r gwddw.
  • Rhagor o adnoddau i drin anhwylderau’r aren.

Mae’r Llywodraeth wedi clustnodi cyfanswm o £59.5 miliwn ar gyfer y gwaith. Maen nhw’n dweud y   bydd arbedion o dorri ar ddyblygu’n mynd yn ôl i’r gwasanaeth.