Mae Plaid Cymru wedi addo cael gwared ar Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a throsglwyddo’i chyfrifoldebau i’r byrddau iechyd lleol.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Helen Mary Jones, fod angen ailfeddwl y gwasanaeth, oedd wedi arwain at ambiwlansiau yn ciwio y tu allan i ysbytai.

Fe wnaeth hi’r sylwadau yn ystod cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd heddiw. Dywedodd y byddai Plaid Cymru hefyd yn cyflwyno isafswm pris 50c ar alcohol yn ogystal â gwahardd ysmygu mewn ceir pan oedd plant yno.

Dywedodd yr AC dros Lanelli y byddai Plaid Cymru yn canolbwyntio ar iechyd yn ystod yr ymgyrch ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

“Rydyn ni eisiau diddymu’r Ymddiriedolaeth Gwasanaetha Ambiwlans a throsglwyddo’r pwerau i’r Byrddau Iechyd Lleol,” meddai yn y Future Inn ym Mae Caerdydd.

“Rhaid cofio pam y cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn y man cyntaf. Y syniad oedd bod cysondeb yn y gwasanaeth ar draws Cymru.

“Mae hynny wedi methu er bod pawb sydd ynghlwm â’r peth wedi gwneud eu gorau glas.

“Mae staff rheng flaen yn dweud nad oes digon o gysylltiad rhwng rheolwyr uwch a’u gwaith dydd i ddydd.

“Byddai rhoi’r cyfrifoldeb yn ôl yn nwylo Byrddau Iechyd Lleol yn sicrhau fod gwasanaeth yn rhan integredig o’r gwasanaeth cyflawn.”