David Bowles
Fe fydd rheolwr gyfarwyddwr dros dro Cyngor Ynys Môn yn gadael ei swydd £270,000 y flwyddyn ddiwedd mis nesaf.

Cadarnhaodd y Gweinidog Awdurdodau Lleol Carl Sargeant y byddai’n penodi olynydd i David Bowles ar ôl iddo adael y cyngor ar 30 Ebrill.

Bydd Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden y cyngor, yn cymryd yr awenau dros dro o 1 Mai ymlaen nes bod olynydd yn ei le.

Cyhoeddodd y gweinidog bythefnos yn ôl y byddai’n diddymu pwerau gweithgor cyngor yr ynys ar ôl arolwg beirniadol arall.

Fe fydd comisiynwyr yn rheoli’r cyngor nes yr etholiadau lleol nesaf o leiaf, meddai.

Mewn datganiad dywedodd comisiynwyr Cyngor Ynys Môn bod “gwaith David wedi gwneud argraff arnom ni”.

“Mae o wedi llywio’r cyngor drwy gyfnod o ansicrwydd mawr, wedi gweithio’n ddiwyd er lles Ynys Môn, ac wedi ymestyn ei gyfnod â’r cyngor er mwyn gallu cau pen y mwdwl ar gyllideb y flwyddyn nesaf.”