Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i dân mewn tafarn yn Wrecsam bellach yn credu ei fod wedi ei ddechrau yn fwriadol.

Cafodd yr heddlu wybod am y tân yn Nhafarn y Nags Head, ar stryd Rifdley Wood, am 11.15pm ddydd Iau, 24 Mawrth.

Galwyd y gwasanaethau brys i’r fan a’r lle ac fe gafodd yr adeilad ei gau i’r cyhoedd trwy gydol dydd Gwener wrth i’r heddlu ymchwilio i beth achosodd y tân.

“Mae ymchwiliad i’r tân yn mynd rhagddo ac rydyn ni’n credu fod y tân wedi ei ddechrau yn fwriadol,” meddai llefarydd ar ran heddlu Wrecsam.

“Rydw i’n galw ar unrhyw un oedd yn ardal Tafarn y Nags Head ar Stryd Ridley Wood, Wrecsam, ar nos Iau, 24 Mawrth, i gysylltu â’r heddlu.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 0845 6071001. Mae hefyd yn bosib cysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”