John Terry - ysbrydoli
Mae yna ddadlau mawr wedi codi ar ôl i gefnogwyr Cymru foddi anthem Lloegr cyn y gêm fawr ddydd Sadwrn.

Yn ôl capten Lloegr, John Terry, roedd y bwian wedi tanio ei dîm cyn iddyn nhw fynd ymlaen i guro Cymru o 2-0 gyda dwy gôl yn y chwarter awr cynta’.

Mae rhaglenni galwadau ar y radio wedi bod yn llawn o bobol yn condemnio’r helynt ac mae cyn-chwaraewyr rhyngwladol o Gymru hefyd wedi beirniadu.

Fe fydd ymchwiliad hefyd ar ôl honiadau bod cefnogwyr Cymru wedi fflachio goleuadau laser ar chwaraewyr Lloegr.

Yn ôl rheolwr y Saeson, Fabio Capello, roedd ef ei hun wedi gweld un digwyddiad o’r fath ond fe benderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn erbyn gwneud cwyn swyddogol.

Y bwriad yw fflachio’r goleuadau i lygaid chwaraewyr, gan gredu y bydd hynny’n effeithio ar eu gallu i weld.