Ron Davies
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, wedi ymosod yn ffyrnig ar ei hen blaid, Llafur, ac ar Peter Hain yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yng Nghaerdydd.

Ac yntau wedi ymddiswyddo o’r Blaid Lafur yn 2004, Ron Davies fydd ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaerffili yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Gan wfftio at addewid Llafur yn yr etholiad i sefyll dros Gymru, meddai wrth annerch cynrychiolwyr Plaid Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm:

“Piti na wnaethon nhw sefyll dros Gymru yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf a helpu ailadeiladu ein heconomi neu gael arian teg i wasanaethau cyhoeddus. Doedden nhw ddim hyd yn oed yn gallu sefyll i fyny i’w meincwyr cefn eu hunain a chael senedd go-iawn inni.

“A phan maen nhw’n honni bod arnyn nhw eisiau ein harwain yn y frwydr yn erbyn toriadau’r Torïaid, gadwch inni ofyn of gychwynnodd y toriadau mewn budd-daliadau yn erbyn mamau sengl? Pwy gyflwynodd ffioedd dysgu yn y lle cyntaf? Yr ateb yw Llafur.

“Mae nhw’n awr yn protestio’n rhagrithiol fod y Torïaid yn symud ymlaen â’r agenda a gafodd ei gychwyn gan Thatcher ac a gafodd ei barhau gan Lafur.”

Beirniadu Peter Hain

Fe neilltuodd rai o’i sylwadau mwyaf deifiol ar gyfer Peter Hain, cyd-aelod iddo yng nghabinet Tony Blair, ac olynydd iddo fel Ysgrifennydd Cymru:

“Mor garedig a hael oedd hi ar ran Peter Hain i’n hatgoffa ar gychwyn yr ymgyrch na fydden ni’n cael y refferendwm yma oni bai am Blaid Cymru,” meddai.

“Dw i ddim wedi fy argyhoeddi’n llwyr mai ei fwriad oedd meithrin undod rhyng-bleidiol er mwyn ennill pleidlais Ie. Mewn gwirionedd, dw i ddim wedi fy argyhoeddi o gwbl.

“Cyn belled ag y mae’r Blaid Lafur yn y cwestiwn, pan mae dewis rhwng buddiannau plaid neu fuddiannau cenedlaethol does dim ond un enillydd.

“Roedd Peter Hain yn gwybod yn iawn faint o drafferthion y gallasai ei sylwadau fod wedi eu hachosi, ond ei agwedd oedd ‘dim gwahaniaeth, mae gêm bleidiol i’w chwarae’.

“Geiriau annoeth ac wedi eu hamseru’n wael, efallai, ond roeddet ti’n iawn Peter. Heblaw am y Blaid fyddai yna ddim refferendwm ar Fawrth 3.”