Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain angheuol yn ystod oriau mân y bore ym Môn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 1.30 y bore ym mhentref Star ger Gaerwen ar ffordd yr A5 i Gaergybi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod pedwar o bobl yn teithio mewn car BMW o liw arian, ac i un ohonyn nhw farw o’i anafiadau. Fe aed â’r tri arall i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond ni chredir bod eu hanafiadau’n rhai sy’n peryglu eu bywydau.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd naill ai’n dystion i’r gwrthdrawiad, neu wedi gweld BMW arian yn y cyffiniau ychydig ynghynt neu ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall i gysylltu â nhw trwy ffonio 101.