Rhan o logo'r ganolfan
Fe fydd canolfan sydd i fod i helpu busnesau newydd mewn maes economaidd pwysig yn cau cyn diwedd y flwyddyn.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y bydd @wales yn cau ddiwedd mis Medi ar ôl costio £3 miliwn tros gyfnod o ddeng mlynedd.

Roedd hi i fod i gynnig cyfle cynta’ i fentrau newydd ym maes y cyfryngau digidol, un o’r meysydd y mae’r Llywodraeth wedi bod yn awyddus i’w hyrwyddo.

Roedd arolwg wedi dangos nad oedd y ganolfan yn cynnig gwerth am arian nac yn gweddu gyda strategaethau newydd ar ddatblygu’r economi.

Mae’n dilyn penderfyniad cynharach i gau’r rhan fwya’ o’r canolfannau Technium ar hyd a lledd Cymru – roedd y rheiny hefyd yn unedau meithrin ar gyfer busnesau newydd.

Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, doedd @wales ddim yn meithrin digon o fusnesau ac roedd yn costio gormod.

Mae’r Llywodraeth yn addo rhoi cymorth i’r 11 cwmni sy’n dal i fod yn denantiaid yn yr adeilad yn Sgwâr Mount Stuart yng Nghaerdydd.