Nerys Evans yn siarad heddiw
Bydd angen i Gymru ddangos “dewrder” os yw’r wlad am oresgyn her y toriadau ariannol dros y blynyddoedd nesaf, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Nerys Evans.

Dywedodd Nerys Evans, a fydd yn sefyll yn sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, bod Cymru wedi cael hyd i hyder newydd wrth bleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm ar ragor o ddatganoli ddechrau’r mis.

“Rydym yn gwybod yn sgil y bleidlais Ie ysgubol yng Nghymru yn y refferendwm bod y genedl wedi cael hyd i hyder newydd,” meddai Nerys Evans wrth siarad yng nghynhadledd y blaid yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

“Gyda thoriadau’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwrw ein cymunedau, yn ymosod ar ein diwydiannu creadigol gan fygwth dyfodol S4C, yn bwrw ar yr heddlu ar ein strydoedd, myfyrwyr a dyfodol y Post Brenhinol, mae angen i ni fod yn ddewr wrth gynnig gweledigaeth Gymreig.

“Rydym yn gwybod na fydd Llafur yn gwneud hynny, yn sicr wnaethon nhw ddim gwneud hynny yn y 13 blynedd y bu ganddynt gyfle i amddiffyn buddiannau Cymru, ac felly mae’n gyfrifoldeb i’r Blaid ymateb i’r her.”

Angen datganoli grym dros adnoddau Cymru

Dywedodd Elfyn Llwyd, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod  adnoddau naturiol Cymru’n ganolog i ddyfodol economaidd y wlad.

Dywedodd bod projectau gan gynnwys fferm gwynt môr newydd Gwynt y Môr, sydd yn eiddo i Ystâd y Goron, yn dangos sut mae Cymru’n cael ei hegsploitio gan Lywodraeth San Steffan.

“Gallwn ni ddim pwysleisio digon yr angen i ddatganoli grym dros ein hadnoddau morwrol gan fod gwerth yr adnoddau hyn yn gallu trawsnewid ein heconomi,” meddai Elfyn Llwyd.

“Mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn hollol ymwybodol o werth yr adnoddau hyn, a dyna pam nad yw Cymru’n derbyn buddiannau ei hadnoddau egni.

“Mae’r tair plaid Lundeinig gynddrwg a’i gilydd pan mae’n dod i egni, gan ddadlau dros eu datganoli i Fae Caerdydd ac wedyn plygu i’w meistri yn Llundain.

“Os ydym o ddifri am eisiau i Gymru fod yn wlad lwyddiannus, werdd yna mae’n rhaid i ni ymladd i ddod a’r pwerau hyn i’r Cynulliad.”

Ymosod ar y Blaid Lafur

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru dros De Clwyd, nad oedd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi llwyddo i gynnig ffordd ymlaen i’r wlad.

“Mae’r Blaid Lafur wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn benthyg maniffestos Plaid Cymru i geisio meddwl am atebion Cymreig i gwestiynau Cymreig,” meddai.

“Ond nawr ein bod yn dod at ein hetholiad cyffredinol mae’n rhaid iddynt feddwl am eu hatebion eu hunain, ac maent yn cael trafferth.

“Mae cyfaddefiad Carwyn Jones i gynhadledd Lafur bod eu plaid mewn llywodraeth yng Nghymru wedi bod dim byd mwy na ffatri strategaeth heb gynnyrch ar y diwedd yn dderbyniad clir nad oes ganddyn nhw syniadau, cynlluniau na gweledigaeth dros Gymru.

“Nid yw’n achos o beidio cael Cynllun B, nid oes ganddynt hyd yn oed Gynllun A.”